Rheolwr Cyfrifon (Materion Cyhoeddus a Pholisi)

Trosolwg o’r cwmni a’r rôl

Mae Cadno Communications (Cadno) yn asiantaeth materion cyhoeddus a chyfathrebu sy’n tyfu ac yn darparu cymorth ymgysylltu â rhanddeiliaid ac ymgynghori â’r gymuned i ddatblygwyr ynni adnewyddadwy a seilwaith gyda phrosiectau sy’n cael eu cynllunio, neu sy’n cael eu hadeiladu, yng Nghymru a Lloegr.

Rydym yn darparu cyngor materion cyhoeddus strategol i ddatblygwyr ar faterion gwleidyddol a pholisi yng Nghymru i lywio eu penderfyniadau ar fuddsoddi ac i helpu i lywio eu datblygiadau. Rydym yn gweithio gyda rhai o ddatblygwyr ynni adnewyddadwy mwyaf y DU, gan gynnwys RWE Renewables, EDF Renewables a Vattenfall, gan roi cymorth iddynt ar ddatblygiadau mawr gwynt ar y tir, gwynt ar y môr, solar, hydrogen a batris.

Mae gan Cadno enw da iawn, ac mae ein cleientiaid yn ein parchu’n fawr oherwydd ein bod yn cyflawni’r hyn rydym yn ei addo. Dyna pam maen nhw’n dod yn ôl atom o hyd. Rydym yn darparu gwasanaeth o safon, a gwyddom bod llwyddiant ein cleientiaid yn llwyddiant i ni hefyd. Mae gennym safonau uchel ac rydym yn gweithio’n galed i gynnal y rhain bob amser. Yn Cadno, rydym yn gweithio fel tîm, ac yn cefnogi ein gilydd ym mhob agwedd o’r gwaith.

Bydd y person sy’n cael ei benodi yn arwain ar bolisi a materion cyhoeddus, gan weithio gyda’n gwasanaeth monitro gwleidyddol i sicrhau bod ein cleientiaid yn wybodus iawn. Bydd yr elfen hon o’r gwaith yn cynnwys dadansoddi polisi Llywodraeth Cymru ar ynni adnewyddadwy a newid hinsawdd, ymchwil desg ar gyfer paratoi archwiliadau gwleidyddol lleol, cael y wybodaeth ddiweddaraf am fusnes perthnasol y Senedd, a rheoli perthnasoedd â rhanddeiliaid allweddol.

Bydd y person sy’n cael ei benodi hefyd yn cefnogi tîm ehangach Cadno i roi cymorth i gleientiaid sy’n cynnal ymgynghoriadau cyhoeddus ar brosiectau mawr. Bydd hyn yn cynnwys drafftio datganiadau i’r wasg, ysgrifennu deunydd atodol ar gyfer ymgynghoriadau cyhoeddus, a threfnu cyfarfodydd a digwyddiadau.

Rydym yn chwilio am rywun sydd â diddordeb yng ngwleidyddiaeth Cymru, ynni adnewyddadwy a materion newid hinsawdd, ac sy’n mwynhau ymchwil. Dylech fod yn gyfathrebwr da, gyda’r gallu i drefnu’n wych, a pharodrwydd i fod yn hyblyg – weithiau mae terfynau amser tyn i’w bodloni i gyflawni gofynion y cleient.

Rhaid i’ch gwaith fod yn gywir, a bydd angen i chi gynhyrchu deunydd ysgrifenedig rhagorol sy’n addas ar gyfer gwahanol gynulleidfaoedd – o ysgrifennu taflen sy’n esbonio prosiect ynni adnewyddadwy mawr a chymhleth i aelod o’r cyhoedd, i grynodeb ar gyfer ein cleientiaid o ddogfen bolisi a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru.

Oriau              Llawn amser / 35 awr

Cytundeb      2 flynedd

Lleoliad         Caerdydd (Swyddfa Cadno)

Cyflog            £28,000 – £32,000 yn ddibynnol ar brofiad

Buddion        25 diwrnod o wyliau blynyddol yn ogystal â gwyliau banc; cyfraniadau pensiwn rhanddeiliaid; cyfleoedd hyfforddi

 

Prif gyfrifoldebau

Materion cyhoeddus a pholisi

  • Gweithio’n agos gyda gwasanaeth monitro Cadno i gynhyrchu adroddiadau gwleidyddol wythnosol wedi’u teilwra ar gyfer cleientiaid
  • Drafftio archwiliadau gwleidyddol
  • Ysgrifennu bywgraffiadau o aelodau etholedig a pharatoi dogfennau briffio ar gyfer cleientiaid
  • Rheoli logisteg Grŵp Trawsbleidiol y Senedd ar Ynni Adnewyddadwy a Charbon Isel

Ymgysylltu â rhanddeiliaid

  • Trefnu cyfarfodydd gyda rhanddeiliaid
  • Trefnu digwyddiadau ymgynghori
  • Archebu lleoliadau
  • Cysylltu â chyflenwyr a chleientiaid
  • Sicrhau bod deunyddiau print ac ar-lein yn cael eu paratoi i safon uchel a’u cyflwyno’n brydlon
  • Mynychu digwyddiadau ymgynghori yn ôl yr angen
  • Mewnbynnu data
  • Cyfrannu at ddrafftio adroddiadau adborth ymgynghori

Cadno

  • Gweithgareddau ad hoc i sicrhau bod y busnes yn rhedeg yn esmwyth

Meini prawf hanfodol

  • Profiad o weithio mewn rôl materion cyhoeddus neu bolisi, neu brofiad mewn maes cysylltiedig fel newyddiaduraeth
  • Sgiliau cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig rhagorol
  • Sgiliau rhyngbersonol rhagorol, profiad o ddatblygu a rheoli perthnasoedd cadarnhaol gyda chleientiaid a rhanddeiliaid
  • Meddu ar hunan-gymhelliant, hyblygrwydd, gallu ymdrin â phrosiectau niferus ar yr un pryd
  • Y gallu i weithio i derfynau amser ac o dan bwysau
  • Sgiliau TG rhagorol
  • Diddordeb brwd yn yr amgylchedd ac ynni adnewyddadwy
  • Profiad o gyflwyno gwaith ysgrifenedig o ansawdd uchel mewn lleoliad sy’n seiliedig ar derfynau amser
  • Diddordeb a dealltwriaeth o’r Senedd, Llywodraeth Cymru a sefydliadau cysylltiedig

Meini prawf dymunol

  • Siarad Cymraeg
  • Gwerthfawrogiad o bolisi fel y mae’n berthnasol i’r argyfwng hinsawdd ac ynni adnewyddadwy
  • Profiad o ymgysylltu â chynrychiolwyr etholedig ar bob lefel.
  • Dealltwriaeth o brosesau cynllunio statudol ar gyfer prosiectau seilwaith

Sut i ymgeisio

Anfonwch lythyr eglurhaol a CV at [email protected] erbyn 10.00 Dydd Llun 16 Ionawr 2023.