Ynghylch

Gan arbenigo mewn rheoli rhanddeiliaid ar gyfer prosiectau seilwaith ym meysydd cynllunio ac adeiladu, a rheoli ymgysylltu â rhanddeiliaid o ddydd i ddydd ar lefel gorfforaethol, gall Cadno sicrhau eich bod yn cyfathrebu â’r bobl gywir, ar yr amser cywir, yn y ffordd gywir. Mae tîm Cadno yn brofiadol wrth ymdrin â datblygiadau mawr a chymhleth, ac wedi gweithio ar nifer o gynigion heriol i’w gyrru ar draws y llinell derfyn.

Sut rydym yn gweithio

Yn Cadno, rydym eisiau datblygu perthnasoedd creadigol a hirdymor gyda chleientiaid a darparu offer a thechnegau sy’n benodol i’w hanghenion. Gallwn weithio mewn ffordd ymarferol iawn – gan arwain y rhaglen gyfathrebu, cyfarfod â rhanddeiliaid a rhoi adborth; neu gallwn ddarparu gwybodaeth, cyngor, negeseuon a deunydd ategol i gefnogi eich pobl ar raglen gyfathrebu a arweinir ganddynt.

Rydym yn falch o’r ffordd rydym yn gweithio, ein hanes o lwyddiant a safonau uchel. Rydym bob amser yn dilyn y rheolau ymgysylltu a nodir yn y Codau Ymddygiad yn agos.

Ein nod yw gwneud i randdeiliaid deimlo’n gyfforddus ac yn hapus i drafod prosiectau, i ofyn cwestiynau ac i gymryd rhan wrth lunio’r canlyniadau. Ni fyddwn byth rhoi ein rhanddeiliaid mewn perygl, ac rydym yn gwerthfawrogi ein perthynas â nhw.

Rydym yn dewis ein cleientiaid yn ofalus a byddwn ond yn gweithio gyda chwmnïau sy’n gwneud pethau da i wneud y byd yn lle gwell, a gyda phobl sy’n rhannu ein gwerthoedd.

Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â DeHavilland i ddod â monitro gwleidyddol cryno ac amserol i gleientiaid.

Yn falch i fod yn rhan o raglen profiad gwaith graddedigion Prifysgol Caerdydd.

Living Wage Employer logo

Cyflogwr Cyflog Byw ydym ni.

Beth mae pobl yn ei ddweud amdanom…

“Mae EDF Renewables wedi gweithio gydag Angharad a Cadno ers 2018 ac maent bellach yn un o’n cynghorwyr cyfathrebu sefydledig ar amrywiaeth o brosiectau ynni adnewyddadwy ledled Cymru a Lloegr. Mae Cadno yn bartner cyfathrebu rhagorol ac yn allweddol i hyrwyddo ein prosiectau wrth i ni symud tuag at Sero Net.”

Darren Cuming, Pennaeth Datblygu, EDF Renewables

“Rydym wedi bod yn gweithio gyda Cadno ers 2013 ar draws ein portffolio gwynt ar y tir yng Nghymru. Maent yn rhoi cymorth amhrisiadwy i ni ac yn rhoi cyngor cadarn. Mae’r tîm yn broffesiynol, yn gymwys ac yn ddygn, ac maent yn gweithio gyda’n rheolwyr prosiect i ymgysylltu â rhanddeiliaid lleol ac ymgynghori â’r cyhoedd o safon uchel.”

Eleri Davies, Pennaeth Datblygu Ynni Ar y Tir Cymru, RWE

“Mae tîm Cadno yn eithriadol - wir. Mae'r wybodaeth a'r mewnwelediad sydd ganddynt yn amhrisiadwy, yn caniatáu i ni gynllunio ein hymagwedd gan roi sylw i fanylion sy'n gwneud gwahaniaeth. Bob amser yn barod i helpu, mae eu natur galonogol yn gwneud i’r tîm deimlo fel estyniad o’n galluoedd mewnol, yn barod i dorchi eu llewys waeth beth fo’r gofyn – ac i mi, cydweithio ar ei orau yw hynny.”

Mike Scott, Uwch Swyddog Gweithredol Cyfathrebu, Ogi

“Gwrandawodd dîm Cadno ar ein anghenion a’n cefnogi gyda phecyn gwaith pwrpasol. Roedd hyn yn cynnwys cynllunio a chyflwyno cynllun cyfathrebu manwl, ysgrifennu copi a chefnogi datblygiad y wefan. Roeddent hefyd yn gymorth gwych gyda’n digwyddiad wyneb yn wyneb. Drwy gydol cyfnod y contract roeddent yn aelodau gwirioneddol o’r tîm, gyda sylw rhagorol i fanylion gan gadw popeth ar y trywydd cywir.”

Mererid Velios, Swyddog Datblygu Rhaglen (Cynllun ar gyfer Cymdogaethau), Cyngor Bro Morgannwg

“Mae Cadno wedi llwyddo i dendro am waith gyda Trydan ac maent yn cyflawni'r cryfderau yr addawyd gan eu cynigion. Maent wedi'u cysylltu'n dda yng Nghymru, yn sensitif i fuddiannau ac anghenion lleol a chenedlaethol, ac yn deall yr heriau a'r cyfleoedd y mae cymunedau a rhanddeiliaid yn eu derbyn. Mae'r wybodaeth empathetig yma, a'u profiad proffesiynol, yn cyfuno i gynnig cyngor rhagorol a chyflawniad ymarferol wrth i ni ddylunio a chynnal ymgysylltu ac ymgynghori â'r cyhoedd.”

Dr Catrin Ellis Jones, Pennaeth Ymrwymiad Cyhoeddus, Trydan Gwyrdd Cymru

Addewid twf gwyrdd
Disability confident committed
Addewid cydraddoldeb