Tîm asiantaeth gyda sawl degawd o brofiad mewn materion cyhoeddus a chyfathrebu

Cefnogi datblygwyr i gyfleu eu neges ar lefel leol

Sicrhau y gwrandewir ar gymunedau drwy'r broses ddatblygu

Rydym yn rhannu gwybodaeth

Yn Cadno, credwn ei bod yn hanfodol bwysig bod llunwyr polisi yn gwneud penderfyniadau gwybodus ar ran ein cenedl a’n cymunedau. I wneud hynny dylent deimlo’n gyfforddus i ymgysylltu â datblygwyr, teimlo eu bod yn rhan o’r prosiect, a gallu cyfrannu mewn ffordd sy’n sicrhau ei fod yn rhoi’r budd mwyaf i bobl leol, ac yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol.

Rydym yn cynghori ac yn arwain

Gallwn helpu eich cwmni i ddatblygu strategaethau cyfathrebu sy’n meithrin dealltwriaeth a chefnogaeth wleidyddol drwy ymgysylltu â’r rhanddeiliaid cywir gan ddefnyddio’r negeseuon cywir. P’un a ydych am gael cymorth materion cyhoeddus i godi proffil rhinweddau eich cwmni ymhlith y rhai sy’n gwneud penderfyniadau neu os oes angen i chi ennill calonnau a meddyliau’n lleol ar gyfer prosiect seilwaith mawr, gall Cadno gynghori ac arwain, neu ddylunio ac arwain rhaglen gyfathrebu, gan sicrhau bod prosiectau gwych yn cael eu gwireddu.

Rydym yn deall

Rydym wir yn deall byd gwleidyddiaeth a busnes ac yn gwybod pwysigrwydd cymdeithas a chymuned sifil. Rydym yn helpu ein cleientiaid i ddeall y pethau hyn hefyd, fel y gall syniadau da ddod yn realiti llwyddiannus.

Beth allwn ni ei wneud i chi?

Dyma ddetholiad o’r gwasanaethau rydym yn eu cynnig. Cysylltwch os gallwn eich helpu.

Rydym yn gweithio ar bob lefel o lywodraeth gyda phrofiad o ymgysylltu ag Aelodau’r Senedd, Gweinidogion, Aelodau Seneddol, Cynghorwyr, Cynghorau Cymuned, a Swyddogion.

Dyfeisio a rheoli rhaglenni cyswllt â rhanddeiliaid

Broceru partneriaethau gyda grwpiau busnes lleol a'r cyfryngau

Ysgrifennu copi a dylunio negeseuon cyfathrebu a deunydd ategol

Adeiladu perthnasoedd cymunedol a chefnogaeth trydydd parti

Gwneud gwaith mapio rhanddeiliaid a pholisi

Rhoi cyngor ar negeseuon allweddol ac ysgrifennu papurau briffio

Drafftio datganiadau i'r wasg a rheoli cysylltiadau â'r cyfryngau

Drafftio ymatebion corfforaethol i ymgynghoriadau

Darparu hyfforddiant a chyngor i lefarwyr y cwmni

Siarad ar ran cleientiaid mewn cyfarfodydd a chyflwyniadau

Trefnu ymweliadau canfod ffeithiau i safleoedd ar gyfer cleientiaid

Darparu rheolaeth digwyddiadau ar gyfer ymgysylltu â rhanddeiliaid

Yn falch o weithio gyda…

EDF
Vattenfall
RWE
ogi
The Crown Estate
EDF Energy
Lighthouse
Lightrock Power
KL Technologies

Mae Cadno yn gweithredu fel ysgrifenyddiaeth Grŵp Trawsbleidiol y Senedd ar Ynni Adnewyddadwy a Charbon Isel. Sefydlwyd y Grŵp Trawsbleidiol i hwyluso trafodaethau rhwng seneddwyr a’r diwydiant i lywio a chyfoethogi’r ddadl ar ynni adnewyddadwy a charbon isel yng Nghymru.

Os hoffech ddod yn aelod a chlywed mwy am gyfarfodydd y dyfodol, cysylltwch â [email protected]