Y tîm
Yn y ffau…
Angharad Davies
Cyfarwyddwr
Daniel Taylor
Polisi a Materion Cyhoeddus
Sarah Jones
Rheolwr Cyfrifon
Ewan Alexander
Swyddog Gweithredol Cyfrifon Cyfathrebu
Meilyr Ceredig
Ymgynghorydd
Rosemary Grogan
Cynghorydd Strategol
Ceri Fitzpatrick
Ymgynghorydd
Angharad Davies
Cyfarwyddwr
Angharad Davies yw sylfaenydd a Chyfarwyddwr Cadno. Mae ganddi bron i dri degawd o brofiad o reoli rhanddeiliaid ar ôl gweithio’n fewnol ar lefelau uwch i gorfforaethau mawr yn y sector rheoleiddiedig sy’n mynd trwy newid strwythurol mawr a phrosiectau buddsoddi sylweddol mewn seilwaith. Bu Angharad yn gweithio gyda San Steffan a Seneddwyr Ewropeaidd cyn gweithio ym maes polisi a materion cyhoeddus yn y sectorau addysg ac iechyd, i reoli cyfathrebu gwleidyddol yn fwy diweddar ar gyfer Grŵp y Post Brenhinol ac yna fel Pennaeth Materion Cyhoeddus y DU i BT Openreach. Yn wreiddiol o Geredigion, mae Angharad yn siarad Cymraeg a bellach yn byw yng Nghaerdydd. Mae’n aelod o Grŵp Strategaeth RenewableUK Cymru.
Meilyr Ceredig
Ymgynghorydd
Mae gan Meilyr Ceredig bron i 20 mlynedd o brofiad cyfathrebu a chysylltiadau cyhoeddus, mae’n siartredig gan y Sefydliad Siartredig Marchnata a Chysylltiadau Cyhoeddus. Tan yn ddiweddar bu’n rheolwr gyfarwyddwr Four Cymru yn gweithio i ystod o gleientiaid gan gynnwys Llywodraeth Cymru, S4C, Prifysgolion Cymru a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Bu’n gyfarwyddwr prosiect ar brosiectau a oedd yn eiddo iddo, gan gynnwys Marchnad Lafur Gymraeg. Cyn hyn bu’n bennaeth swyddfa Grayling yng Nghymru lle bu’n gweithio ar restr cleientiaid amrywiol yn rhoi cymorth materion cyhoeddus ac ymgysylltu â rhanddeiliaid, a chyngor rheoli argyfyngau i gleientiaid gan gynnwys BBC Cymru, BT Group, y Post Brenhinol, a Land Securities. Mae Meilyr yn Gymro Cymraeg ac yn byw yn Aberystwyth.
Sarah Jones
Rheolwr Cyfrifon
Mae Sarah Jones wedi gweithio gyda Cadno ers y dechrau ac mae ganddi brofiad cryf o reoli prosiectau a swyddfa. Bu’n gweithio yn y sector gwirfoddol gan arbenigo mewn ymgysylltu â’r gymuned, lle bu’n hwyluso grwpiau ffocws a gweithdai ar gyfer sefydliadau’r sector cyhoeddus, gan gynnwys awdurdodau lleol, a staff a gwirfoddolwyr hyfforddedig. Cyn hynny, roedd Sarah yn rheolwr prosiect ac yn hyfforddwr i elusen cyfiawnder troseddol, yn gweithio gyda staff, gwirfoddolwyr, dioddefwyr trosedd a throseddwyr, a bu’n gweithio fel rheolwr swyddfa i’r Weinyddiaeth Gyfiawnder a Gwasanaeth Carchardai EM. Yn wreiddiol o Ben-y-bont ar Ogwr, mae Sarah yn dysgu Cymraeg ar lefel uwch ac mae bellach yn byw yn y Barri.
Ceri Fitzpatrick
Ymgynghorydd
Treuliodd Ceri Fitzpatrick dros 30 mlynedd ym maes telegyfathrebu ac roedd yn ganolog i’r gwaith o gyflwyno band eang cenhedlaeth gyntaf a defnyddio cysylltedd rhyngrwyd olynol. Bu’n gweithio mewn uwch rolau gan gynnwys fel Cyfarwyddwr Partneriaeth Ranbarthol Cymru BT. Cyn hynny bu Ceri yn aelod o Fwrdd BT Cymru yn gweithio ar lawer o raglenni seilwaith proffil uchel gan gynnwys Cyflymu Cymru a Superfast Worcestershire. Gyda phrofiad sylweddol o ymgysylltu â rhanddeiliaid, marchnata, rheoli digwyddiadau a chyfathrebu roedd Ceri hefyd yn rheoli agenda a chyllideb Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol BT yng Nghymru. Wedi’i geni a’i magu yn ne Cymru, mae Ceri yn deithiwr brwd, yn trio’i gorau i ddysgu Ffrangeg ac yn grochenydd ofnadwy.
Rosemary Grogan
Cynghorydd Strategol
Mae Rosemary Grogan yn darparu cyngor strategol, gan dynnu ar ei chyfoeth o brofiad fel un o’r ymarferwyr materion cyhoeddus uchaf ei pharch yn y DU. Mae Rosemary wedi rhoi cyngor materion cyhoeddus i nifer o gleientiaid ar ffermydd gwynt ar y tir ac ar y môr, a phrosiectau cysylltu â’r grid. Mae hi hefyd wedi gweithio gyda chleientiaid proffil uchel mewn manwerthu, bwyd a diod, gwastraff a gweithgynhyrchu. Treuliodd ugain mlynedd yn Llundain, lle bu’n gyfarwyddwr a sylfaenydd Westminster Strategy ac APCO UK, ac yn gynharach yn ei gyrfa bu’n Bennaeth Gwasanaeth Gwybodaeth i ASau yn Llyfrgell Tŷ’r Cyffredin. Mae hi’n byw yn y canolbarth.
Daniel Taylor
Polisi a Materion Cyhoeddus
Daniel Taylor sy’n arwain gwaith polisi a materion cyhoeddus Cadno, gan ddefnyddio ei brofiad ym meysydd polisi, monitro gwleidyddol ac ymgyrchoedd. Cyn hynny, bu’n gweithio i’r sefydliad monitro gwleidyddol Newsdirect Wales, yn ymdrin â’r Senedd a Senedd y DU ar gyfer amrywiaeth o gleientiaid yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector ac yn arwain tîm Cymru fel Dirprwy Gyfarwyddwr. Cafodd Daniel brofiad o weithio mewn ymgyrchoedd gwleidyddol yn ystod Etholiadau’r Senedd yn 2021, gan gyfrannu at ymgyrch etholaethol lwyddiannus yn un o seddi mwyaf ymylol Cymru. Mae’n dysgu Cymraeg, yn frwd dros chwaraeon, ac yn byw ym Mro Morgannwg.
Ewan Alexander
Swyddog Gweithredol Cyfrifon Cyfathrebu
Graddiodd Ewan Alexander mewn athroniaeth yn ddiweddar, gan ganolbwyntio cyfran helaeth o’i astudiaethau a’i ysgrifau ar amgylcheddaeth a chynaliadwyedd. Ar ôl gwneud llawer o waith ymchwil a gwaith ar bynciau o amgylcheddaeth i wleidyddiaeth a chymdeithas, mae Ewan yn wybodus ac yn brofiadol wrth drafod newid hinsawdd ac ynni adnewyddadwy. Mae Ewan yn Gymro Cymraeg sy’n byw yng Nghaerdydd.